Telerau defnyddio
1. Darperir y wybodaeth a'r deunydd ar y wefan hon yn rhad ac am ddim (ac eithrio lle nodir yn wahanol) ac at ddibenion enghreifftiol yn unig. Nid ydynt wedi'u bwriadu i sefydlu, ac nid ydynt yn sefydlu, unrhyw berthynas fusnes, perthynas gytundebol na pherthynas gyflogaeth â Jac Y Do.
2. Mae'r wybodaeth, y cynnwys, y testun a'r delweddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i god html, sgriptiau a ffotograffau, yn eiddo i Jac Y Do (oni chydnabyddir yn wahanol), ac ni chaniateir eu copïo, eu hatgynhyrchu, eu hailgyhoeddi, eu postio, eu trosglwyddo na'u dosbarthu mewn unrhyw ffordd heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw.
3. Darperir y wefan hon "fel y mae", ac mae Jac Y Do yn ymwrthod yn benodol â phob gwarant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu'n ymhlyg, gan gynnwys gwarantau ansawdd marchnadwy ac addasrwydd at ddiben penodol. Ni fydd Jac Y Do nac unrhyw un o'i gyflogeion na'i gontractwyr yn atebol o dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw iawndal o gwbl mewn cysylltiad â'r wybodaeth neu'r deunydd ar y wefan hon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i iawndal gwirioneddol, canlyniadol, uniongyrchol, esiamplaidd, achlysurol, anuniongyrchol, cosbol neu arbennig.
4. Gall dolenni ar y wefan hon arwain at wasanaethau neu wefannau nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Jac Y Do. Ni fynegir unrhyw farn na gwarant ynghylch gwasanaethau neu wefannau eraill o'r fath, ac nid yw Jac Y Do yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt. Nid yw dolen i wefan neu wasanaeth arall yn golygu bod Jac Y Do yn cymeradwyo'r wefan neu'r gwasanaeth hwnnw. Mae unrhyw ddefnydd a wnewch o'r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon, neu ar unrhyw wefan neu wasanaeth y ceir dolen iddo o'r wefan hon, ar eich menter eich hun.
5. Llywodraethir y Telerau ac Amodau hyn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a chânt eu dehongli yn unol â hwy. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi ohonynt yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.