Gwybodaeth i denantiaid
Rhentu cartref gyda Jac Y Do
Rydym yn cynnig yr un gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol i chi, y tenant, ag i'r landlord.
Cartrefi ledled Gorllewin Cymru
Fflatiau a thai wedi'u dodrefnu a heb eu dodrefnu
Os ydych chi'n chwilio am le i'w rentu yn Aberystwyth, Aberteifi, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan neu unrhyw le yng Ngorllewin Cymru, edrychwch ar yr eiddo sydd gennym ar hyn o bryd. Mae'r eiddo sydd ar gael gennym yn newid bob dydd, felly cysylltwch â ni i holi beth sydd ar gael.
Er eich diogelwch a'ch tawelwch meddwl:
- Mae gan bob un o'r eiddo rydym yn eu rheoli dystysgrif Gas Safe, ac maent yn cael eu harchwilio ar gyfer diogelwch trydanol a diogelwch tân dodrefn.
- Mae blaendaliadau tenantiaeth (bondiau) yn cael eu cymryd a'u cadw yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth (Tenancy Deposit Protection Regulations).
Canllaw i denantiaid
O'r ymholiad cyntaf i symud i mewn
Dod o hyd i eiddo i'w rentu
Y cam cyntaf yw cysylltu â ni gyda manylion byr amdanoch chi a'r llety sydd ei angen arnoch. Yna byddwn yn chwilio drwy ein cronfa ddata am eiddo addas i chi ei weld. Os nad yw'n fater brys, byddwn yn cofnodi eich manylion er mwyn cysylltu â chi pan fydd eiddo addas ar gael. Mae'n syniad da dechrau chwilio tua mis cyn yr hoffech symud, gan fod yr eiddo gorau yn cael eu gweld a'u cadw'n gyflym. Mae contractau'n cael eu rhoi am gyfnod o 6 mis o leiaf.
Gweld eiddo
Rydym yn trefnu i chi weld eiddo ar adegau sy'n gyfleus i chi, gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau. Bydd aelod o staff gyda chi bob amser, a gall roi cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cadw'r eiddo
Ar ôl i chi ddewis eiddo, bydd angen i chi ei gadw drwy dalu 'Taliad Cadw Eiddo' (Property Holding Payment), sy'n cyfateb i rent un wythnos. Os bydd y denantiaeth yn mynd yn ei blaen, caiff y swm hwn ei dynnu o'r arian sy'n ddyledus cyn i chi symud i mewn. Os bydd y landlord yn penderfynu peidio â chaniatáu'r denantiaeth, caiff y taliad ei ad-dalu. Fodd bynnag, byddwch yn colli'r taliad os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen am unrhyw reswm, neu os na fyddwch yn rhoi gwybodaeth gyflawn a chywir yn eich cais. Bydd y cyfnod tenantiaeth cychwynnol yn gontract meddiannaeth safonol am 6 mis.
Geirdaon
Fan lleiaf, bydd angen geirdaon boddhaol arnom gan eich cyflogwr (neu'ch coleg) a chan landlord blaenorol neu'ch landlord presennol. Efallai y bydd angen geirda personol a gwarantwr arnom hefyd. Yn ogystal, byddwn yn cynnal gwiriad credyd. Efallai y byddwn yn defnyddio gwasanaethau cwmni geirdaon annibynnol i gasglu ac asesu'r geirdaon hyn.
Rhent
Fel rheol, nodir rhenti fesul mis calendr, ac maent yn daladwy bob mis ymlaen llaw. Fel arfer, y tenant sydd hefyd yn gyfrifol am y Dreth Gyngor, taliadau dŵr, nwy, trydan a chostau ffôn. Rhaid talu pob rhent drwy archeb sefydlog o'r banc i gyfrif banc ein cwmni.
Blaendal
Mae angen blaendal tenantiaeth (neu 'fond') cyn i chi symud i mewn. Mae hwn yn cyfateb i rent un mis. Pan fyddwn ni'n rheoli'r eiddo, bydd y blaendal hwn naill ai a) yn cael ei gadw gennym ni a'i ddiogelu gan yswiriant, neu b) yn cael ei anfon ymlaen at y corff gwarchodol a awdurdodwyd gan y llywodraeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig pa gynllun a ddefnyddir.
Costau tenantiaid
Beth fydd cost tenantiaeth
Mae'r holl ffioedd a restrir yn cynnwys TAW.
| Eitem | Cost |
|---|---|
| Rhent y mis cyntaf | Ymlaen llaw |
| Bond | Yn cyfateb i rent un mis, ac yn cael ei gadw gan y Deposit Protection Service drwy gydol y denantiaeth |
| Blaendal cadw | Uchafswm o rent 1 wythnos |
| Ffi am dalu rhent yn hwyr | Llog ar yr ôl-ddyledion 8 diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus, ar 3% uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr |
| Methu â chadw apwyntiad gyda chontractwr | £50 |
| Torri allweddi ychwanegol | Cost y gwaith sydd ei angen |
| Newid cloeon os na chaiff allweddi eu dychwelyd ar ddiwedd contract | £120 |
Ar ddiwedd y contract, bydd y blaendal yn cael ei ad-dalu i'r tenant o fewn 10 diwrnod i'r archwiliad ymadael, ar yr amod nad oes unrhyw anghydfod. Os na ellir dod i gytundeb, y Deposit Protection Service fydd yn penderfynu ar y mater ar gyfer unrhyw swm sy'n hafal i swm y blaendal neu'n is. Ar gyfer symiau sy'n fwy na'r blaendal a dalwyd, y llys sirol fydd yn penderfynu ar y mater.




Wedi gweld cartref rydych chi'n ei hoffi?
Gallwn drefnu i chi weld eiddo ar adegau sy'n gyfleus i chi, gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau. Ffoniwch y swyddfa neu anfonwch neges WhatsApp atom.